Yn bresennol
|
Categori
|
Enwau
|
|
Aelodau’r
Pwyllgor:
|
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)
Paul Davies AS
Heledd Fychan AS
Jane Hutt AS
|
|
Staff y
Pwyllgor:
|
Graeme Francis (Clerc)
Steffan Lewis (Dirprwy Glerc)
|
|
Eraill yn
bresennol
|
Jane Dodds AS
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd
Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a
Phwyllgorau
Marc Wyn Jones, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a
Deddfwriaeth
Helen Carey, Llywodraeth Cymru
Alun Davidson, Pennaeth
Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol
Lisa Griffiths, Clerc
Gweithdrefnau
|
<AI1>
1
Cyflwyniad,
ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y
Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd
ymddiheuriadau.
</AI1>
<AI2>
2
Cofnodion y
cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
</AI2>
<AI3>
3
Trefn
Busnes
</AI3>
<AI4>
3.1
Busnes yr wythnos
hon
Dydd
Mawrth
- Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.20pm.
Mae Cyfnod 3 Bil
yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau
Bioamrywiaeth) (Cymru) wedi’i amserlennu ar gyfer tair awr.
Mae 54 o welliannau mewn 11 o grwpiau. Bydd egwyl o 10 munud cyn
dechrau Cyfnod 3.
Dydd
Mercher
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y newid a ganlyn:
- Cwestiynau i
Gomisiwn y Senedd (
30 10 munud)
- Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.25pm.
</AI4>
<AI5>
3.2
Amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i
amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf:
Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026
- Cynnig o dan
Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol
gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (5
munud):
-
- Rheoliadau
Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau
Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026
- Rheoliadau
Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio)
2026
- Cynnig o dan
Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol
gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (10
munud):
-
- Rheoliadau
Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio)
2026
- Rheoliadau
Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion
Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026
- Rheoliadau
Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru)
(Diwygio) 2026 (15 munud)
Cododd Heledd
Fychan y mater fod Aelodau ei grŵp wedi gofyn ai 24
Chwefror yw’r dyddiad a
ffefrir o hyd ar gyfer y ddadl ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd
Oes), yng ngoleuni'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol
pellach i'w osod gan y Llywodraeth. Cadarnhaodd y Trefnydd fod 24
Chwefror yn dal i gael ei ystyried fel y dyddiad mwyaf
priodol.
</AI5>
<AI6>
3.3
Amserlen busnes y
Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd
ar gyfer tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 25 Chwefror 2026 -
- Cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau (5
munud)
- Cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog: Trothwyon Rheolau Sefydlog (5
munud)
- Cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog: Grwpiau Gwleidyddol a Grwpiadau (5
munud)
- Cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog: Dirprwy Lywydd ychwanegol (5
munud)
- Cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor (5
munud)
- Cynnig i
amrywio'r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Iaith
Arwyddion Prydain (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 11 Mawrth 2026 –
- Dadl ar
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cywain y
cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru (30
munud)
- Dadl ar
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cronfa
Twf Lleol (30 munud)
- Dadl ar
Adroddiad y Bwrdd Adolygiad Seneddol sy’n gynhwysol ac yn
ystyriol o deuluoedd (60 munud)
- Dadl: Cyfnod
4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (15 munud)
- Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer:
Russell George AS (Sir Drefaldwyn) (30 munud)
</AI6>
<AI7>
4
Deddfwriaeth
</AI7>
<AI8>
4.1
Llythyr gan y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â'r
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Hyfforddiant
Meddygol (Blaenoriaethu)
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a'r ffaith nad yw'r Pwyllgor wedi adrodd
ar y Memorandwm oherwydd yr amser cyfyngedig sydd ar
gael.
</AI8>
<AI9>
4.2
Diweddariad ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd
i:
- gyfeirio’r Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil
Rheilffyrdd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i
graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 20
Mawrth 2026;
- cyfeirio'r
Memorandwm Atodol (Rhif 3) ar y Bil Troseddau a Phlismona o flaen
llaw at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 24
Chwefror 2026;
- cyfeirio'r
Memorandwm Atodol (Rhif 4) ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl
(Diwedd Oes) o flaen llaw at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 24
Chwefror 2026, a
- chyfeirio'r
Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cynlluniau Pensiwn o flaen llaw
at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 24 Chwefror
2026;
</AI9>
<AI10>
5
Trefniadau
Cyflwyno
</AI10>
<AI11>
5.1
Cyflwyno ar
ôl yr etholiad: Trefniadau cynnar
Trafododd y
Pwyllgor y papur a:
- chytunodd y
bydd y Swyddfa Gyflwyno yn agor ar ôl Cyfarfod Llawn cyntaf y
Seithfed Senedd ar gyfer derbyn dogfennau a osodwyd, cwestiynau
ysgrifenedig, busnes brys, cynigion, gwelliannau, datganiadau barn,
a gosod dogfennau;
- nododd y caiff
Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynir o hynny ymlaen eu cyhoeddi yn y
ffordd arferol, a'r dyddiad olaf ar gyfer ateb cwestiynau
ysgrifenedig fydd pum niwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eu
cyflwyno; a
- nododd y caiff
Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynir i Lywodraeth Cymru eu cyflwyno
i’w hateb gan y Prif Weinidog, a fydd yn penderfynu pwy
ddylai eu hateb, hyd nes y caiff Gweinidogion eraill eu
penodi.
</AI11>
<AI12>
6
Pwyllgorau
</AI12>
<AI13>
6.1
Llythyr gan
Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ynghylch slot
cyfarfod amgen
Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
iddo gyfarfod ddydd Gwener 13 Mawrth 2026 a chytunodd i’r
cais.
</AI13>
<AI14>
7
Gwaith
Gweithdrefnol
</AI14>
<AI15>
7.1
Ystyried
newidiadau i Reol Sefydlog 23
Dychwelodd y
Pwyllgor Busnes at ystyried gwelliannau i'r Rheolau Sefydlog a
gynigiwyd gan y Pwyllgor Deisebau a chytunodd i gynnig rhai o'r
newidiadau i'r Senedd.
Penderfynodd y
Pwyllgor Busnes na fyddai’n bwrw ymlaen â chynnig i
ddiwygio Rheol Sefydlog 23.1, a fyddai wedi ei gwneud yn ofynnol i
ddeisebau gael eu cyfeirio at un pwyllgor, ar y sail nad yw am
gyfyngu ar hyblygrwydd y Pwyllgor Busnes nesaf pan fydd yn sefydlu
pwyllgorau yn y Seithfed Senedd.
Nododd y
Rheolwyr Busnes y byddai adroddiad drafft ar newid Rheolau Sefydlog
yn cael ei lunio i’w gytuno mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
</AI15>
<AI16>
7.2
Llythyr gan y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â datganiadau o
fuddiant
Nododd y
Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn
cynnwys canllawiau arfaethedig ynghylch y gofyniad i Aelodau sy'n
cyflwyno busnes ar ran eraill ddatgan buddiannau ar adeg ei
gyflwyno. Dywedodd y Pwyllgor Busnes ei fod yn fodlon ar y
cynnig.
</AI16>
<AI17>
7.3
Datganiadau o
fuddiant: Adroddiad ar Newid Rheolau Sefydlog
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft.
</AI17>
<AI18>
7.4
Busnes Seneddol
yn y Seithfed Senedd: Adroddiad ar Newid Rheolau
Sefydlog
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft.
</AI18>
<TRAILER_SECTION>
</TRAILER_SECTION>
<LAYOUT_SECTION>
1.
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
2.
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
<HEADING_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
</HEADING_LAYOUT_SECTION>
<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_SUMMARY
</COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.1
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.2
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>